Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (96)v4 |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
Cwestiwn Brys Peter Black (Gorllewin De Cymru): Yn dilyn Datganiad Ysgrifenedig y Dirprwy Weinidog, pa gefnogaeth bydd y Gweinidog yn ei rhoi i Gyngor Castell-nedd Port Talbot i sicrhau bod gwasanaethau cymdeithasol i blant yn yr awdurdod hwnnw yn gwella.
|
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) |
3. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Darparu gwasanaethau addysg yng Nghymru yn y dyfodol (45 munud) |
4. Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau ar y Paratoadau ar gyfer y Gaeaf (30 munud) |
5. Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio – pwerau i gynnwys darpariaethau machlud ac adolygu mewn is-ddeddfwriaeth (15 munud) NNDM5061 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau’r Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio sy’n ymwneud â phŵer i Weinidogion Cymru gynnwys cymalau machlud ac adolygu mewn is-ddeddfwriaeth, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Hydref 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i). Dogfennau
Ategol
|
6. Dadl ar Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2011-12 (60 munud) NDM5095 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer 2011-12. Gellir gweld Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer 2011-12 drwy ddilyn y linc a ganlyn: http://www.childcomwales.org.uk/uploads/publications/299.pdf Cyflwynwyd
y
gwelliannau a ganlyn: Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod gan Gomisiynydd Plant Cymru gyfrifoldeb dros faterion wedi eu datganoli a materion heb eu datganoli sy’n ymwneud â phlant yng Nghymru. Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu trefniadau llywodraethu Comisiynydd Plant Cymru, ac i ystyried gwneud y Comisiynydd yn atebol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn hytrach nag i’r Prif Weinidog yn unig. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod datganiad i’r wasg Comisiynydd Plant Cymru sy’n gysylltiedig ag Adroddiad Blynyddol 2011-12: a) yn cydnabod y pryderon a fynegwyd wrth Gomisiynydd Plant Cymru nad yw rhai pobl ifanc yng Nghymru yn gallu cael gafael ar wasanaethau ieuenctid o ansawdd da, ac nad yw gwasanaethau ieuenctid yn cael eu gwerthfawrogi ddigon; a b) yn galw am ymrwymiad cenedlaethol i gydnabod gwerth gwaith ieuenctid. Mae’r datganiad i’r wasg ar gael drwy ddilyn y linc a ganlyn: http://www.complantcymru.org.uk/uploads/publications/302.pdf
|
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd yr eitem am
|
7. Dadl Fer (30 munud) NDM5075 Lynne Neagle (Tor-faen): Y Storm Berffaith Asesu effaith gronnol diwygio lles mewn cysylltiad â thai yng Nghymru.
|
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 21 Tachwedd 2012